Ni chafodd Brenin nef, Y dydd y ganed Ef, Yn cartref gwych; O'r fath ryfeddod mawr! Etifedd nef a llawr A gaed cyn torri'r wawr Yn llety'r ych. Ond cododd goleu mawr Ar deulu daear lawr, Yn awr o'r nef; Am lawer oes, fe fu Yn gaeth luosog lu, Dan gysgod angeu du, Nes ganwyd ef. Am Grist a'i farwol glwy', Mae sôn yn myned drwy Ororau maith; Y mae'r efengyl lân, Fel pur angerddol dân, Yn 'hedeg yn y blaen, I blith pob iaith. Daw'r anial dîr fel gardd, Yn llawn rhosynau hardd, Ardderchog wedd: Y ddaear a fydd lawn O bob rhinweddol ddawn, Ac yn flodeuog iawn Mewn gras a hedd.
1-2: Casgliad Samuel Roberts 1841 Tôn [664.6664]: Moscow (Felice de Giardini 1716-96) gwelir: Am Grist a'i farwol glwy' |
The King of heaven did not get On the day He was born, A brilliant home; Oh, what a great wonder! The heir of heaven and earth Was found before the break of dawn In the lodging of the oxen. But a great light arose On the family of earth below, Now from heaven; For many an age, it was A captive numerous host, Under the shadow of black death, Until he was born. About Christ and his mortal wound, The mention is going through Vast frontiers; The holy gospel is Like pure intense fire, Flying forwards, Into the midst of every language. The desert land will become like a garden, Full of beautiful roses, Of exceptional appearance: The earth shall be full Of every virtuous gift, And greatly flourishing In grace and peace. tr. 2015 Richard B Gillion |
|